Pryd
28 – 30 Mehefin 2017
Ble
Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Cymru
Cynhadledd Rhyng-ddisgyblaethol Bangor ar Blentyndod ac Ieuenctid
'Ynghylch plant a phobl ifanc yn yr 21ain ganrif'
Mae ein cynhadledd yn gydweithrediad rhwng yr Ysgol Addysg, Ysgol y Gyfraith, a'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac yn gyfle cyffrous i gael dadleuon a thrafodaethau rhwng disgyblaethau am blentyndod ac ieuenctid cyfoes mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r thema gyffredin ar gyfer y gynhadledd 'Ynghylch plant a phobl ifanc yn yr 21ain ganrif', yn gwahodd amrywiaeth eang o ymatebion i'r sylwadau diweddar a wnaed gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) (Mehefin 2016) bod y DU yn 'anoddefgar' tuag at blentyndod ac yn 'diystyru' pobl ifanc yn gyffredinol.
Mae'n 30 mlynedd erbyn hyn ers cadarnhau'r UNCRC, ac yn ystod y cyfnod hwn bu cynnydd ym maes rhyngwladol Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, ochr yn ochr â phwyslais cyson ar weithrediad a chyfranogiad plant a phobl ifanc. Hoffem i'r gynhadledd gynnig cyfle i adfyfyrio a thrafod y sefyllfa bresennol a lle nesa i blant a phobl ifanc mewn cymdeithas yn yr 21 ganrif o fewn cyd-destunau eang Hawliau, Iechyd, Addysg a'r Gyfraith.
Prif Siaradwyr
- Jane Williams, Prifysgol Abertawe
- Yr Athro Nigel Thomas, University of Central Lancashire
- Yr Athro Helen Stalford, University of Liverpool
- Yr Athro Stephen Case, Loughborough University